

The basics
Quick facts
Intro
Bookseller and printer at Holywell, Wales
Gender:
Male
Places:
Work field:
Birth:
1772(Holywell, Flintshire, Wales, United Kingdom)
Death:
25 May 1828(Holywell, Flintshire, Wales, United Kingdom)
The details
Biography
Introduction
Argraffydd a llyfrwerthwr Cymreig oedd Edward Carnes (c.1772 - 25 Mai 1828) a oedd yn frawd i William Carnes. Ardal eu mebyd oedd Treffynnon, Sir y Fflint.
Yn ôl y dystiolaeth cychwynnodd Edward ar waith argraffu tua mis Mehefin 1796. Mae'n bosibl y bu'n llyfrwerthwr cyn hynny ac o'r herwydd yn gyfarwydd â'r byd cyhoeddi Cymraeg a Saesneg. Un enghraifft o'i ddawn fel crefftwr ydy'r gwaith a gyflawnodd i David Jones gydag argraffiad 1823 o Flodeu-Gerdd y Cymry. Bu'r ddau frawd yn weithgar yn yr un dref, gan fod swyddfa Edward yn Stryd Whitford yn 1828, tra roedd William yn rhwymo llyfrau yn Stryd y Ffynnon tua'r un cyfnod. Bu farw Edward Carnes o'r dwymyn ar 25 Mai 1828 yn 58 oed.
Ffynonnellau
- A History of Printing and Printers in Wales to 1810, and of Successive and Related Printers to 1923, Ifano Jones, (1925).