Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Hanes a thraddodiad Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Santeso'r 5g oedd Lluanac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.

Hanes a thraddodiad

Dywedir iddi briodi â'r tywysog Gafran ap Dyfnwal Hen o'r Hen Ogledd ac iddynt gael mab, Áedán mac Gabráin (neu 'Aeddan fab Gafran'). Cyfeirir ato yn y Trioedd fel bradwr am iddo ochri gyda'r Eingl-Sacsoniaid. Daeth yn frenin ar Sgotiaid Dál Riada (tua 573-608). Yn ôl y traddodiad Cymreig, ffoes Aeddan gyda'i fam i Ynys Manaw ar ôl Brwydr Arfderydd.

Eglwysi

Ceir Capel Llanlluan rhwng Llanarthne a Llandybie yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r y gair llugan yn enw Llanllugan, Powys, yn ffurf ar yr enw Lluan. SefydlwydLlanllugan ganddi, llan a goroesodd tan y 12g pan trowyd yn leiandy gan y Sistersiaid. Dwedir fod Enoc, abad cyntaf mynachdy Sistersiaid Ystrad Marchell wedi priodi un o 'leianod' Llanllugan a bu cysylltiad agos rhwng y dwy le tan y Diwygiad Mawr.

Gweler Hefyd

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau