

Introduction
Santeso'r 6g oedd Dwywe neu Dwywaia merch Gwallog ab Llenog.
Hanes a thraddodiad
Roedd Dwywe yn wraig i Dunod Fawr, un o feibion Cunedda Wledig, pennaeth cyntaf Gwynedd, yr enwir cantref Dunoding ar ei ôl, yn ôl hanes traddodiadol Cymru. Ni wyddys dim mwy am Ddwywe na'i bod yn wraig Dunod ac yn fam i'r seintiau Deiniol, Cynwyl a Gwarthan, yn ôl traddodiad.
Gan fod enw'r santes yn cynnwys yr elfen dwy- (yn yr ystyr "sanctaidd"), mae'n bosibl mai hanesion am duwies frodorol wedi ychwanegu i'r traddodiad Cristnogol amdani. Ategir y posiblrwydd gan y ffaith ei fod yn wraig i Ddunod, sefydlydd Dunoding; gellid dadlau ei bod yn cynrychioli "sofraniaeth" leol.
Cysylltir y santes â phlwyf Llanddwywe, Ardudwy Is Artro (de Gwynedd).
Gwelir hefyd
Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"