

Introduction
- Erthygl am y sant yw hon. Am y gymuned ym Mhowys gweler Cadfarch (cymuned).
Sant Cymreig oedd Cadfarch (bl. 6g). Mae'n nawddsant Penegoes (Powys) ac Abererch (Gwynedd). Ei ddydd gŵyl yw 24 Hydref.
Yn ôl yr achau, mab Caradog Freichfras oedd Cadfarch. Roedd Sant Cawrdaf yn frawd iddo. Dywedir iddo sefydlu clasau neu eglwysi ym Mhenegoes - a adnabyddid fel Llangadfarch yn y gorffennol. Cysylltir ef gydag Abererch ond mae'r cyfeiriad cyntaf ato'n enwi 'Aberech', sef Berach, a gysylltir gydag Aberdaron yn Llŷn (Arch.Camb., 86 (1931), t.166 n.34), Capel y Ferach yw Capel Anelog (WATU).
Ceir Ffynnon Gadfarch ger eglwys Penegoes a oedd yn dda at wella'r crudcymalau.
Mab iddo oedd sant Elgud. Ni wyddys dim amdano.
Roedd Cadfarch yn un o'r "Saith Gefnder", sef Beuno, Cybi, Seiriol, Deiniol, Cawrdaf, Dewi a Chadfarch ei hun, a aeth ar bererindod i Rufain i weddïo am law ar ôl tair blynedd o sychder eithriadol. Bu'r daith yn llwyddiannus a dywedir i'r dafn cyntaf o law syrthio ar lyfr Sant Cadfarch.
Rhai llefydd cysylltiedig
| # | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | Abererch | 52°54′07″N 4°23′10″W / 52.902°N 4.386°W / 52.902; -4.386 | Gwynedd | Q319538 | |
| 2 | Cadfarch | 52°33′40″N 3°53′58″W / 52.561°N 3.89932°W / 52.561; -3.89932 | Powys | Q13126454 | |
| 3 | Penegoes | 52°35′33″N 3°48′29″W / 52.5924°N 3.80797°W / 52.5924; -3.80797 | Powys | Q3404986 |