

The basics
Quick facts
Intro
6th century Welsh saint
Gender:
Male
Places:
Is:
Work field:
Family:
The details
Biography
Introduction
Sant Cymreig cynnar oedd Maethlu (bl. 6g). Mae'n nawddsant plwyf Llanfaethlu ym Môn. Cyfeirir ato hefyd fel "Maethlu Gyffeswr". Ei wylmabsant yw 26 Rhagfyr.
Bywgraffiad
- Achau
Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl y testun achyddol Bonedd y Saint, roedd yn un o feibion Caradog Freichfras, un o arwyr Cylch Arthur, a'i wraig Tegau Eurfron. Roedd ei frodyr yn cynnwys Cadfarch, Tangwn a Chawrdaf; dywedir i Gawrdaf sefydlu teyrnas yn ardal Rhwng Gwy a Hafren yn y 6g.
- Eglwysi
Sefydlodd Maethlu eglwys Llanfaethlu ar Ynys Môn; mae'n nawddsant yr eglwys honno. Dywedir hefyd iddo sefydlu eglwys Llandyfalle ym Mrycheiniog.