The basics
Quick facts
Intro
Welsh saint
Gender:
Male
Places:
Work field:
Birth:
(Twrcelyn, United Kingdom)
Residences
Anglesey, Isle of Anglesey, Wales, United Kingdom
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Sant o'r 5ed neu'r 6g oedd Caian. Yn ôl un llawysgrif (Iolo MSS tud 117) ei dad oedd Caw, sant ac un o frenhinoedd yr Hen Ogledd a ddihangodd i Ynys Môn, ble rhoddodd Maelgwn Gwynedd dir iddo yng ngogledd-ddwyrain yr ynys: ardal o'r enw Twrcelyn. Os mai Cai oedd ei dad yna un o'i chwiorydd oedd Cwyllog, a sefydlodd eglwys Sant Cwyllog, Llangwyllog yn 6g. Ei ddydd gŵyl yw 25 Medi.

Ond yn ôl llawysgrifau eraill, gan gynnwys Peniarth 75 ac 178, roedd Caian yn byw yn y 5g ac yn fab i Frychan Brycheiniog, un o frenhinoedd De Cymru.

Mae'n bosib iddo roi ei enw i Langaian ger Tregaian ym Môn (neu 'Tregaean'; 'Tregaearn' yn ôl yr Eglwys yng Nghymru), oddeutu 2.5 milltir (4.0 km) i'r gogledd o Langefni (Cyfeirnod grid: SH45127970).

Cyfeiriadau