William Spurrell
Welsh printer

William Spurrell

The basics
Quick facts
Intro
Welsh printer
Gender:
Male
Places:
Birth:
30 July 1813(Carmarthen, Carmarthenshire, Wales, United Kingdom)
Death:
22 April 1889
Star sign:
The details
Biography

Argraffydd a chyhoeddwr Cymreig oedd William Spurrell (30 Gorffennaf 1813 – 22 Ebrill 1889), y cysylltir ei enw ag un o'r geiriaduron Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed, sef y Spurrell's Welsh Dictionary Saesneg-Cymraeg.

Brodor o Sir Gaerfyrddin oedd Spurrell. Yn 1849 sefydlodd argraffwasg yn nhref Caerfyrddin a dyfodd i fod yn un o'r gweisg mwyaf safonol yng Nghymru.

Etifeddwyd cwmni Spurrell gan ei fab Walter (1858-1934) ar farwolaeth William Spurrell yn 1889. Cyn sefydlu Gwasg Prifysgol Cymru, Spurrell oedd yn argraffu a chyhoeddi llyfrau safonol ar ran Prifysgol Cymru a hefyd ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gyfnod.

Cyhoeddir geiriadur Spurrell gan gwmni Harper Collins heddiw, fel y Collins Spurrell Welsh Dictionary.