

The basics
Quick facts
Intro
Welsh female 5th century saint
Gender:
Female
Places:
Work field:
Family:
Father:
The details
Biography
Introduction
Santes Gymreig oedd Tudwen (bl. 5g). Yn ôl yr achau traddodiadol roedd hi'n un o blant niferus Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog. Ei gwylmabsant yw naill ai 21 neu 27 o Hydref.
Nawddsant
Ychydig a wyddom amdani ar wahân i'w lle yn yr achau fel un o ferched niferus Brychan a'r ffaith mai hi yw sefydlydd a nawddsant Eglwys y Santes Tudwen yn Llandudwen (cymuned Buan) yn Llŷn, Gwynedd.
Ffynnon
Roedd Ffynnon Dudwen mewn cae ger yr eglwys ond nid yw yno erbyn heddiw. Fe'i cysegrwyd i'r Santes Tudwen. Defnyddid dŵr y ffynnon i fedyddio plant y plwyf. Roedd yn enwedig o rinweddol at iachau epilepsi, crudcymalau, diffyg teimlad yn y corff, a llygaid blinedig. Cofnodir hefyd fod priodasau dirgel yn cael eu cysegru ger y ffynnon.