Sannan
7th century Welsh-Irish saint

Sannan

The basics
Quick facts
Intro
7th century Welsh-Irish saint
A.K.A.
Senanus, Senen
Gender:
Male
Places:
Work field:
Death:
(Gwytherin, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom)
Residences
Llansannan, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Hanes a thraddodiad Eglwysi Seintiau eraill o'r enw 'Sanan' Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Sant Celtaidd oedd Sannan (fl. diwedd y 5g - dechrau'r 6g?). Ceir y ffurfiau Senanus a Senen ar ei enw hefyd a cheir sant yn Llydaw o'r enw Seny sydd efallai i'w uniaethu â Sannan. Dethlir ei Ŵyl Mabsant ar 29 Ebrill yn draddodiadol.

Hanes a thraddodiad

Dywedir fod Sannan yn perthyn i gylch Dewi Sant a'i fod wedi sefydlu Llansannan yng ngogledd Cymru (bwrdeistref sirol Conwy). Fe'i cysylltir â Bedwellte yn ne Cymru yn ogystal.

Mae'r traddodiadau amdano'n gymysg ac efallai'n ymwneud â mwy nag un sant o'r enw. Sonnir amdano fel diacon yn Iwerddon a chafodd fab o'r un enw a oedd yn nai i Sant Padrig, ond mae hynny'n ymddangos yn bur anhebygol.

Dethlid gwylmabsant Sannan yn Llantrisant, Môn, yn ogystal ag yn Llansannan a Bedwellty.

Ceir plwyf St Sennen ar benrhyn Land's End yng Nghernyw hefyd ond nid oes sicrwydd mai'r un sant oedd Sennen a Sannan.

Eglwysi

  • Eglwys Sant Sannan, Llansannan
  • Eglwys Sant Sannan, Bedwellte; ceir "Ffynnon Sannan" ger yr eglwys
  • Hen Eglwys y Seintiau Afran, Ieuan a Sannan, Llantrisant, Ynys Môn

Seintiau eraill o'r enw 'Sanan'

  • Sanan ferch Cyngen - merch Cyngen o Bowys a Tudglid ferch Brychan,gwraig Maelgwn Gwynedd, yn ôl De Situ Brecheniauc (§12(9) yn EWGT t.15).
  • Sanan ferch Elise - mae'n debygol mai ei thad, Elise, oedd mab Gwylog ap Beli o Bowys; roedd yn wraig i Nowy. Cafodd dri mab: Gruffudd, Tewdws a Cathen (HG 15, JC 8 in EWGT pp. 11, 45).

Cyfeiriadau