

Rhystud
The details
Biography
Introduction
Sant Cymreig oedd Rhystud (Lladin: Restitus, fl. 6g).
Hanes a thraddodiad
Yn ôl traddodiad roedd Rhystud yn un o feibion Hywel ab Emyr Llydaw ac felly'n frawd i Sulien, Cristiolus a Derfel Gadarn, ac efallai Dwywe (Dwywau) hefyd. Dywedir iddo fod yn esgob yn yr ysgol a sefydlodd Sant Dyfrig yng Nghaerleon. Dethlir ei Ŵyl Mabsant ar y dydd Iau cyn y Nadolig.
Yr unig eglwys a gysegrir iddo yw Llanrhystud, Ceredigion. Dyddia'r eglwys bresennol o'r flwyddyn 1852, ond gellir gweld rhywfaint o olion yr eglwys flaenorol.