John Evans
Welsh archdeacon of Merioneth

John Evans

The basics
Quick facts
Intro
Welsh archdeacon of Merioneth
Gender:
Male
Work field:
Birth:
4 March 1815(Llanfair, Gwynedd, Wales, United Kingdom)
Death:
24 May 1891(Bangor, Gwynedd, Wales, United Kingdom)
Star sign:
Religions:
Education:
Trinity College Dublin
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Cefndir Gyrfa Hynafiaethydd Teulu Marwolaeth Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Roedd Yr Hybarch John Evans (4 Mawrth, 1815 – 24 Mai, 1891) yn offeiriad Anglicanaidd Cymreig a wasanaethodd fel Archddiacon Meirionnydd, yn hynafiaethydd, yn achydd ac yn awdur.

Cefndir

Ganwyd Evans yn Nhŷ'n y Coed Llanfair, Harlech yn blentyn i John Evans, tirfeddiannwr ac Anne Owen ei wraig o deulu'r Crafnant, Llanbedr. Roedd Evans, gan hynny, yn disgyn o deuluoedd yr uchelwyr trwy'r ddau riant. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Biwmares a Choleg y Drindod, Dulyn lle graddiodd BA ym 1841 ac MA ym 1863.

Gyrfa

Wedi ymadael a'r ysgol aeth Evans i gwmni cyfreithiol David Williams AS, Castell Deudraeth fel clerc erthyglau, er mwyn cymhwyso i ddod yn gyfreithiwr. Wedi cyflawni ei erthyglau a gweithio fel cyfreithiwr am tua phedwar blynedd penderfynodd nad oedd byd y gyfraith at ei ddant ac aeth yn fyfyriwr diwinyddol i Goleg y Drindod, Dulyn.

Wedi graddio o'r brifysgol fe'i hordeiniwyd yn ddiacon yn yr Eglwys Anglicanaidd ar Sul y Drindod 1841 ac yn offeiriad ym 1842 gan Christopher Bethell, Esgob Bangor. Ym 1841 fe'i penodwyd yn Gurad Llanbedr-y-cennin, Dyffryn Conwy gan wasanaethu yno o 1841 i 1844. Ym 1844 fe'i penodwyd yn Gurad parhaus Pentrefoelas a'i ddyrchafu yn Ficer yr un plwyf ychydig wedyn. Ym 1857 fe'i penodwyd yn Berson Machynlleth ac ym 1862 yn Rheithor Llanllechid. Ym 1866 fe'i codwyd yn Archddiacon Meirionnydd a Channon Trigiannol Eglwys Gadeiriol Bangor, gan barhau hefyd â bywoliaeth Llanllechid. Bu hefyd yn gyfrifol am achos Maes-y-groes rhwng Llandegai ac Abergwyngregyn. Sefydlodd ysgol ddyddiol Eglwysig ym Maes-y-groes. Ym 1888 fe'i penodwyd yn Rheithor Abergwyngregyn gan yr Arglwydd Penrhyn, perchennog y fywoliaeth. Arhosodd yn Abergwyngregyn am weddill ei ddyddiau.

Ym 1881 bu Evans yn un o dri gŵr eglwysig a enwyd mewn gweithred gyfreithiol fel perchenogion darn o dir a defnyddiwyd fel estyniad i fynwent blwyf Llanfrothen. Y ddogfen gyfreithiol hon arweiniodd at Achos claddu Llanfrothen, 1888, yr achos llys a daeth a'r cyfreithiwr ifanc o Lanystumdwy, David Lloyd George i sylw Cymru.

Hynafiaethydd

Roedd Evans yn hynafiaethydd ac yn achydd brwd, yn aelod o bron y cyfan o gymdeithasau a oedd yn ymwneud a'r fath bynciau yn ei ddydd. Roedd yn siaradwr a darlithydd poblogaidd ar y pynciau. Yn anffodus ychydig o ffrwyth ei lafur a gyhoeddwyd ond mae ei lithiau ar hanes Pentrefoelas yn y Cambrian Journal rhwng 1854 a 1855 ac ysbytywyr Ysbyty Ifan yn Archæologia Cambrensis ym 1860 yn dangos faint ei allu fel hanesydd.

Bu'n gwasanaethu fel beirniad mewn nifer o'r prif Eisteddfodau ar y cystadlaethau llenyddol a fu'n gadeirydd Pwyllgor Llên Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor 1890.

Teulu

Priododd Mary Williams merch William Williams, Brynberllan, Pwllheli cawsant dau fab a dwy ferch. Bu'r ddau fab hefyd yn offeiriaid Anglicanaidd.

Marwolaeth

Bu farw ar Sul y Drindod 1891, ym Mangor o niwmonia yn 76 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor.

Cyfeiriadau