

The basics
Quick facts
Intro
Welsh saint
Gender:
Male
Places:
Work field:
Residences
Bardsey Island, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Family:
Mother:
The details
Biography
Introduction
Sant cynnar o Gymru oedd Hywyn neu Henwyn (fl. 6g).
Hanes a thraddodiad
Roedd yn fab i Gwyndaf Hen a'i wraig Anna neu, yn ôl ffynhonnell arall, Gwenonwy. Ond mae llinach achau arall yn ei wneud yn fab i Ddingad. Roedd yn frawd i Sant Baglan a'r Santes Meugant.
Treuliodd gyfnod fel mynach yng nghlas enwog Llanilltud Fawr. Dywedir iddo fod yn beriglor i Sant Cadfan.
Cysegrir eglwys Aberdaron ar benrhyn Llŷn, lle gwasanaethodd y bardd R. S. Thomas am gyfnod, i Sant Hywyn. Daeth yn abad ar y clas ar Ynys Enlli, dros y swnt. Byddai pererinion yn arfer galw yn eglwys Sant Hywyn cyn groesi am Enlli.
Gwylmabsant: 1 Ionawr a 6 Ionawr.