Hychan
Monnik uit Wales

Hychan

The basics
Quick facts
Intro
Monnik uit Wales
A.K.A.
Sant Hychan
Gender:
Male
Places:
Is:
Work field:
Birth:
(Denbighshire)
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Llanychan, Rhuthun Llanfarian, Aberystwyth Gweler hefyd Cyfeiriadau Llyfryddiaeth
The details
Biography

Introduction

Sant a gŵr Cristnogol oedd Hychan a fu'n byw yn yr hyn a elwir heddiw yn Llanychan, ger Dinbych tua 450 OC; roedd ganddo hefyd gysylltiad gydag ardal Llanfarian, Aberystwyth.

Yn Cognacio Brychan, De Situ Brecheniauc ac yn llawysgrif "Achresi Eglwys Crist MS 20", dywedir ei fod yn un o feibion Brychan, brenin a sant (fl. 5g), sefydlwr teyrnas Brycheiniog (yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru) yn ôl y traddodiad. Dethlir ei ddydd mabsant ar 8 Awst.

Ceir dwy eglwys wedi'u henwi ar ei ôl.

Llanychan, Rhuthun

Sonir am Llanychan yn gyntaf yng 'Nghofnodion Treth Norwich' yn 1254. Mae ei llan gylchog uchel yn nodedig iawn ac yn brawf y bu yma unwaith Eglwys Geltaidd, gynharach. Mae Eglwys Sant Hychan yn debyg iawn o ran arddull i Eglwys Sant Cynhafal, ond ei bod yn llawer llai ac nid oes iddi ddau gorff, nodwedd bensaernïol gyffredin iawn yn Nyffryn Clwyd. Yn y 16g ceir y sillafiad 'Llan Hichen'.

Llanfarian, Aberystwyth

Eglwys fechan yng nghymuned Llanfarian yw Eglwys Sant Hychan. Cofnodir ei henw hefyd fel Llanychaiarn. Mae hanner ei mynwent yn gron. Fe'i lleolir tua 350m i'r de o Gastell Tan-y-Bwlch (castell gwreiddiol Aberystwyth) a godwyd yn wreiddiol yn 1110; mae'n bosibl i'r eglwys gael ei chodi ar yr un pryd, neu'n gynharach, ond nid oedd plwyf Sant Hychan yn bodoli yn yr Oesoedd Canol, dim ond 'capel' a berthynai i Lanbadarn Fawr.

Gweler hefyd

  • Rhestr o seintiau Cymru

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • Cambria Archaeology, 2000, Ceredigion Churches, gazetteer, 48. T.Lloyd, J.Orbach & R.Scourfield, Buildings of Wales: Carmarthenshire and Ceredigion (2006), t.539-40.


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: