Henry Rees
Welsh Calvinistic Methodist minister

Henry Rees

The basics
Quick facts
Intro
Welsh Calvinistic Methodist minister
Gender:
Male
Work field:
Birth:
15 February 1798(Llansannan, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom)
Death:
18 February 1869(Conwy, Conwy, Conwy County Borough, United Kingdom)
Star sign:
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Bywgraffiad Llyfryddiaeth Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Arweinydd crefyddol ymneilltuol ac awdur ar bynciau diwinyddol oedd Henry Rees (15 Chwefror 1798 - 18 Chwefror 1869). Fe ganed ym mhlwyf Llansannan, Sir Ddinbych, mewn ffermdy wrth droed Mynydd Hiraethog. Roedd yn frawd i'r llenor William Rees (Gwilym Hiraethog). Daeth yn un o bregethwyr mwyaf adnabyddus y 19g.

Bywgraffiad

Daeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a dechrau pregethu yn 1818. Un o'r bobl a'i edmygai'n fawr fel pregethwr oedd John Jones, Talysarn, a ysbrydolwyd ganddo i fynd i'r weinidogaeth. Mae ei bregethau a'i ddiwinyddiaeth yn dangos dylanwad diwinyddion Piwritaniaid yr 17g, yn enwedig John Owen.

Cafodd yrfa hir a llwyddianus. Roedd yn barod i fynegi ei farn hyd yn oed pe bai hynny'n tynnu'n groes i bobl yn ei enwad ei hun. Teimlai erbyn 1842 fod y Methodistiaid yng Nghymru ar gyfeiliorn: "aneswyth wyf, a methu gwybod beth a ddaw o'r Methodistiaid hefo'u tlodi [h.y. ysbrydol], eu hanghydfod, a'u hanturiaethau". Serch hynny, arosodd gyda'r enwad er bod ei frawd Gwilym Hiraethog eisoes wedi gadael i ymuno a'r Annibynwyr. Daeth yn llywydd cyntaf Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn 1864. Cyfrannai'n rheolaidd i gylchgronau ymneilltuol y dydd. Cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau yn ystod ei oes.

Llyfryddiaeth

  • Annie Mary Davies (gol.), Life and letters of Henry Rees (Bangor, 1914)
  • Owen Thomas, Cofiant y Parchedig Henry Rees, 2 gyfrol (Wrecsam, 1890)

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein
  2. R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Caerdydd, 1933), t. 44.