Henry Lloyd
Welsh poet and printer, called Ap Hefin

Henry Lloyd

The basics
Quick facts
Intro
Welsh poet and printer, called Ap Hefin
A.K.A.
Ap Hefin
Gender:
Male
Places:
Birth:
23 June 1870(Dolgellau, Gwynedd, Wales, United Kingdom)
Death:
14 September 1946(Aberdare, Rhondda Cynon Taf, Wales, United Kingdom)
Star sign:
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Cefndir Gyrfa Gyrfa lenyddol Cyhoeddiadau Marwolaeth Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Bardd, newyddiadurwr ac argraffydd o Islaw'r Dref, ardal orllewinol blwyf Dolgellau yn enedigol, oedd Henry Lloyd (23 Mehefin 1870 – 14 Medi 1946). Ei enw barddol oedd ap Hefin.

Mae'n cael ei gofio'n bennaf fel awdur geiriau'r emyn dirwestol I bob un sy'n ffyddlon, emyn sydd, yn fwyaf eironig, yn cael ei ganu'n amlach mewn tafarnaua chlybiau na mewn capeli Cymru bellach.

Cefndir

Ganwyd ap Hefin yn Nhyddyn Ifan, Islaw'r Dref, yn fab i David Lloyd, a Margaret (née Owen) ei wraig. Derbyniodd addysg elfennol yn ysgol Arthog.

Ym 1896 priododd â Sarah Ann Gravell a chawsant bedwar o blant. Bu Sarah farw ym 1919.

Roedd yn hen ewyrth i'r bardd Eingl-Gymreig David Annwn (David James Jones g 1953).

Gyrfa

Cafodd ei brentisio yn swyddfa'r Dydd, Dolgellau, un o argraffdai Cymraeg pwysicaf Cymru'r cyfnod, wedi darfod ei brentisiaeth symudodd i Aberdâr ym 1891 i weithio fel cysodydd yn argraffdy'r Darian. Wedi dwy flynedd yn gweithio i'r Darian symudodd i argraffdy'r Tyst ym Merthyr Tudful, cyn dychwelyd i'r Darian ym 1902. Yn ddiweddarach sefydlodd ei fusnes argraffu ei hun a pharhau ynddi nes ymddeol yn 1940. Bu'n is olygydd Y Tyst ac yn olygydd Y Darian. Golygodd golofn farddol Y Darian am ugain mlynedd.

Bu'n bregethwr cynorthwyol yn yr Eglwys Fethodistaidd (Wesleaid) am dros hanner canrif ac yn ddarlithydd poblogaidd mewn cyfarfodydd llenyddol a chrefyddol.

Gyrfa lenyddol

Roedd ap Hefin yn fardd a llenor poblogaidd ac yn enillydd llawer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol; bu'n athro cerdd dafod. Mae'n cael ei gofio'n bennaf bellach am ei sloganau cynganeddol i hysbysebu cwmni diodydd dirwestol Corona, Thomas ac Evans, Porth y Rhondda a'i emyn dirwestol I bob un sydd ffyddlon a genir ar y dôn Rachie fel arfer

Corona yw coron pob Croeso

Mwyn yw dŵr yn mynd i waered,- a mwyn
Yw y medd yn cerdded
Os achos torri syched,
Y mwyna yw lemwnêd.

I bob un sydd ffyddlon

I bob un sydd ffyddlon
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef
Lluoedd Duw a Satan
Sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr.

I bob un sydd ffyddlon,
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef.

Medd-dod fel Goliath
Heria ddyn a Duw;
Myrdd a myrdd garchara
Gan mor feiddgar yw;
Brodyr a chwiorydd
Sy’n ei gastell prudd:
Rhaid yw chwalu’i geyrydd,
Rhaid cael pawb yn rhydd.

Cyhoeddiadau

Ysgrifennodd ap Hefin deunaw o lyfrau gan gynnwys

  • Mafon duon y deau : Pant yr Onen, ac odlau eraill 1899
  • Y briodasferch, gwraig yr Oen, (pryddest cadair Arthog, Hydref 31, 1903), Coffa John Evans (Eglwysbach), Marwnad Esyllwg, a darnau byrion eraill 1903
  • Y twyni grug a'r goeden las, a chathlau ereill 1910
  • Yr Allor deuluaidd : Awdl cadair Eisteddfod Cwmaman 1911 gydag atodiad : Er cof 1911?
  • Dwy wraig o'r wlad : neu, dro i'r amser 1914
  • Merch y Brenin, ac ereill o deulu'r glyn 1923?
  • Dwr o bydew Bethlehem a darnau eraill 1926
  • Stori'r dyn dwad, a straeon eraill 1932
  • Dringo'r bannau ac awdlau eraill 1934
  • Cofiant a gweithiau y Parchedig David Silyn Evans : gweinidog Eglwys Siloa, Aberdârgan ddeugain o sgrifenwyr, yn cynnwys llith gan R. Ifor Parry ; casglwyd gan Ap Hefin 1937
  • Cywyddau Ap Hefin.1946

Marwolaeth

Bu farw ar 14 Medi 1946 yn 76 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Aberdâr.

Cyfeiriadau