Gwynin
Sant Cymreig

Gwynin

The basics
Quick facts
Intro
Sant Cymreig
Gender:
Male
Places:
Is:
Work field:
Birth:
(North Wales, Wales, United Kingdom)
Residences
Dwygyfylchi, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom; Llandegwning, Gwynedd, Wales, United Kingdom; Bangor-on-Dee, Wrexham County Borough, Wales, United Kingdom
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Traddodiadau Eglwysi Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Sant Cymreig oedd Gwynin (bl. 6g?). Ychydig a wyddys amdano.

Traddodiadau

Yn ôl traddodiad roedd yn un o feibion Helig ap Glannog, arglwydd chwedlonol Tyno Helig. Roedd yn frawd i Sant Boda. Dywedir iddo fynd yn fynach ym Mangor Is Coed ac wedyn i Ynys Enlli.

Eglwysi

Cysylltir Gwynin â dau blwyf yng Nghymru, sef Dwygyfylchi yng nghymuned Penmaenmawr, Sir Conwy, a Llandegwning (Llandygwynin) yn Llŷn, Gwynedd.

Eglwys Gwynin Sant yw eglwys plwyf Dwygyfylchi. Fe'i lleolir ym mhentref Dwygyfylchi ei hun.Nid yw'r eglwys bresennol yn hen iawn ond bu eglwys yma yn yr Oesoedd Canol a oedd ym meddiant Abaty Aberconwy. Cafodd yr hen eglwys ei ailadeiladu o'r newydd bron yn 1760, a dim ond darn o ffenestr o'r 16g sy'n aros ohoni; ailadeiladwyd rhan helaeth yr adeilad hwnnw yn ei dro yn y 19g. Mae Syr John Wynn o Wydir yn cyfeirio ati ac yn dweud bod Gwynan a'i frawd Boda, meibion Helig ap Glannog, wedi eu claddu yno.

Gŵyl mabsant: 31 Rhagfyr.

Cyfeiriadau