

Introduction
Llawfeddyg o Gymro oedd Griffith Rowlands(9 Ebrill 1761 – 29 Mawrth 1828).
Cefndir
Ar ôl treulio ei brentisiaeth fel llawfeddyg yn Lerpwl, llwyddodd i gael lle yn Ysbyty St. Bartholomew, Llundain. Ar ôl cwblhau saith mlynedd o addysg feddygol, cafodd ei dderbyn fel aelod o'r Cwmni Llawfeddygon, rhagflaenydd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar yr 1 Awst 1782. Roedd yn llawfeddyg y ty yn ysbyty Bartholomew yn Llundain am ddwy flynedd. Cyn ymsefydlu fel llawfeddyg yng Nghaer. Yn 1785 apwyntiwyd ef yn llawfeddyg i glafdy'r ddinas a bu yn y swydd am 43 o flynyddoedd.
Griffith Rowlands oedd un o'r llawfeddygon cyntaf yn Ewrop i drin claf trwy dorri'r dwy ben yr asgwrn hefo llif. O dan ei driniaeth torrwyd bawd Thomas Charles o#r Bala yn 1799 ar ôl iddo deithio noson rhewllyd lle cafodd losg rhew ar ei fawd. Gyda chymorth Rowlands hefyd y tynnwyd carreg yn pwyso dwy owns a chwarter o bledren Thomas Jones o Ddinbych yn 1802.
Ffynonellau
- Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, II, 526-7;
- G. P. Jones, Newyn a Haint yng Ngymru a phynciau meddygol eraill (Caernarfon 1962) (1963), 161-63;
- T. Jones, Hunangofiant (1820, 1937) (gol. Idwal Jones, 1937), 41-43.