The basics
Quick facts
Intro
Welsh saint
Gender:
Male
Places:
Work field:
Birth:
(Powys)
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Enw Gweler hefyd Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Sant Cernyweg a Chymreig o'r 6g oedd Sant Gwrin a chyfaill i Pedrog, nawddsant Cernyw. Roedd ganddo ddwy eglwys yng Nghernyw: y naill yn Bodmin a'r llall yn Gorran Haven. Ym Mhowys, fe'i coffeir yn eglwys ac yn enw pentref Llanwrin.

Croes ar benrhyn Dodman, ger pentref Sant Gwrin (St Gorran).

Disgrifir y modd y daeth Pedrog o hyd i'r meudwy Gwrin yn llawysgrif ' Bywyd Sant Pedrog gan Stant Méen'; wedi i Bedrog adaelSant Wethnog, darganfu Vuronus, 'meudwy hynod o sanctaidd' a derbyniodd fwyd a lloches ganddo. Yn fuan wedyn gadawodd Gwrin y lle, a bu Pedrog ei hun yn gyfrifol amdano. Mae'r Gotha MS yn disgrifio'r lle yn llawnach gan nodi ei fod, 'mewn dyffryn... ac oherwydd mai mynachod oedd y cyntaf i fyw yno... gelwir y lle yn Bothmena (h.y. Bodmin: 'man byw neu 'bod' y myneich'). Mae hefyd yn nodi i 'Wronus' symud i fan a oedd ddiwrnod o daith i'r de lle treuliodd gweddill ei ddyddiau; ceir lle o'r enw 'Sant Gorran' chwe milltir i'r de o St. Austell a cheir 'St Gorran's Well' ym mynwent eglwys Bodmin.

Enw

Ceir nifer o amrywiadau ar yr enw: Gorran neu Guronus; Guron yw'r ffurf a ddefnyddir yn rhestr y Fatican yn y 10g (Reginensis Latinus 191). Ceir hefyd y ffurfiau cynharach: Sanctus Goranus (1086), Sancto Corono (sic) (1260) a Sancti Goroni (1261).

Gweler hefyd

  • St Goran, pentref yng Nghernyw

Cyfeiriadau

Nawddseintiau Ynysoedd Prydain ac Iwerddon
Nawddseintiau Ynysoedd Prydain ac Iwerddon


Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.