The basics
Quick facts
Gender:
Male
Is:
Work field:
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Tystiolaeth Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Bardd a gysylltir ag Owain mab Urien Rheged yw Dygynnelw. Os gwir y traddodiad buasai yn ei flodau yn ail hanner y 6g ac yn gyfoeswr â Thaliesin, yntau'n fardd a ganodd i Urien yn yr Hen Ogledd yn y cyfnod hwnnw.

Tystiolaeth

Dim ond tri chyfeiriad a geir at Ddygynnelw. Mewn triawd yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain, mae'n cael ei alw'n un o "Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain", gyda Tristfardd ac Afan Ferddig (orgraff ddiweddar):

Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
Tristfardd bardd Urien,
A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.

Mewn testun canoloesol sy'n ymwneud â chrefft y bardd llys, dywedir am amrywiad ar yr englyn unodl union ei fod yn 'englyn anghyfodl yr hwn a elwir "dull Dyg[yn]nelw"'.

Yn olaf enwodd y Gogynfardd Cynddelw Brydydd Mawr ei fab yn Ddygynnelw a chanodd farwnad nodedig iddo. Mae Rachel Bromwich yn awgrymu fod Cynddelw wedi dewis enwi ei fab ar ôl y Cynfardd (mae Dygynnelw yn enw anghyffredin iawn).

Erbyn heddiw mae gwaith Dygynnelw i gyd ar goll, ond mae'n amlwg ei fod o statws arbennig yn y traddodiad cynnar.

Cyfeiriadau

Yr Hen Ogledd
Teyrnasoedd:

Aeron Dál Riata Elmet Gododdin Manaw Gododdin Rheged Ystrad Clud

Pobl:

Aneirin Brân Galed • Clydno Eidyn Coel Hen • Cunedda Cyndeyrn Cynfarch Dyfnwal Frych Dygynnelw Elidir Lydanwyn Eliffer Elffin ap Gwyddno Fflamddwyn • Gwallog Gwenddolau Llywarch Hen Mynyddog Mwynfawr Myrddin Wyllt • Nudd Hael Owain ab Urien Pabo Post Prydain Pasgen fab Urien Rhiwallon fab Urien Rhun fab Urien Rhydderch Hael Sawyl Ben Uchel Talhaearn Taliesin Tristfardd Tudwal Tudclyd Urien Rheged

Lleoedd:

Arfderydd • Argoed Llwyfain • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcaud

Gweler hefyd:

Bonedd Gwŷr y Gogledd • Brynaich • Brythoniaid • Canu Llywarch Hen • Deifr • Y Gododdin • Yr Hengerdd • Llyfr Aneirin • Pictiaid • Trioedd Ynys Prydain • Ymddiddan Myrddin a Thaliesin •