Duncan Brown
Naturiaethwr Cymreig

Duncan Brown

The basics
Quick facts
Intro
Naturiaethwr Cymreig
Gender:
Male
Residences
Talysarn, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Manylion Bywgraffiadol Cymwysterau Papurau ecolegol gwyddonol Cyhoeddiadau mwy poblogaidd Y Cyfryngau Cwmni Pendraw Gwyddoniaeth y Dinesydd [12] Y Weplyfr “Cymuned Llên Natur” (Grwp Facebook) Cyfraniadau poblogaidd ac addysgiadol Wicipedia (Cymraeg) Amrywiol gyhoeddiadau a gweithgareddau cyhoeddus Gweithgarwch gwirfoddol neu led-gyflogedig Geiriau i ysbrydoli Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Naturiaethwr, cyflwynydd radio a golygydd y cylchgrawn Llên Natur ydy Duncan Brown. Mae hefyd yn fathwr enwau Cymraeg ar rywogaethau amrywiol, ac yn golofnydd rheolaidd i'r Cymro. Cyn ymddeol yn 2007 bu'n Uwch-warden ac yn Uwch-reolwr cynefinoedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Manylion Bywgraffiadol

Enw llawn a chyfeiriad presennol: Duncan Jeffrey Brown
  • Dyddiad geni.11 Chwefror 1948
  • Ganwyd yn:Buxton, Swydd Derby, Leaden Knowle, pentref Chinley (hen blwyf Maynestonefield, ardal y Peak, Swydd Derby;
  • Bu'n byw yn Leaden Knowle, Chinley (1948–9); Penybont, Waunfawr, Arfon (1949-c.57); Haul a Gwynt, Waunfawr, Arfon (1958-63); Charlton Kings, Cheltenham, Swydd Gaerloyw (1964-65); Hillside, Bawburgh, Norfolk (1965-68); Holmesdale Street, Grangetown (1970-71);Dorlangoch, Aberhonddu (1971-73); Defynnog, Aberhonddu (1974-75); Llanelltyd, Dolgellau (1976); Bro Enddwyn, Dyffryn Ardudwy (1976-84); Waunfawr, Arfon (1984....)

Addysg

  • Ysgol Gynradd. Waunfawr (1952-57)
  • Ysgolion Uwchradd. - Ysgol Segontium, Caernarfon(1957-58)
  • Ysgol Ramadeg Caernarfon (1958-64)

 

  • Coleg Celf Swydd Gaerloyw (1964-65)
  • Prifysgol Cymru, Caerdydd (c1972
  • Prifysgol Llundain (cwrs allanol mewn swydd) (c. 1982-86)

Graddau /cymwysterau

  • BA (2i) Celfyddyd gain (Norwich)
  • Tystysgrif Dysgu Celf (Caerdydd) (c, 1971)
  • Diploma mewn Bywydeg Maes (Prifysgol Llundain)1979-82

Gyrfa / swyddi

  • Athro celf, Ysgol Gyfun Aberhonddu
  • Warden, Awdurdod Parc y Bannau ar y Mynydd Du
  • Warden/Rheolwr Safle i’r Cyngor Gwarchod Natur, Safleoedd de Meirionnydd
  • Uwch-Warden, gogledd Gwynedd i’r Cyngor Gwarchod Natur
  • Darlithydd I’r WEA (yr amgylchedd:Pen Llŷn, Eifionnydd ac Arfon)

Gwaith achlysurol fel myfyriwr

  • Gwasanaeth arlwyo canolfan wyliau Butlins, Pwllheli
  • Cwmni William Bunce (Peiriannau) cyf.(amryfal waith adeiladu erydr eira)
  • National Carriers (adran gludiant British Rail - llwytho wagenni)

Dylanwadau

Personau: Tom Elis (athro ysgol gynradd Waunfawr: llenyddiaeth a byd natur);  Peter Hope Jones (model rôl I laslanc - adarydd athrylithgar, gweithgar a brwdfrydig); Alan Hobson (agorodd fy llygaid I rym geiriau - athro Saesneg, Ysgol Ramadeg Caernarfon); Ifor Pritchard (yr artist a agorodd fy llygaid I realiti’r Argraffyddion); Peter Benoit (botanegydd athrylithgar ac unigryw o’r Bermo y bum yn cyd-deithio ag o yn y maes am flynyddoedd; Wil Jones (cyfarfod yn wreiddiol ar Ynys Enlli, cydymaith o naturiaethwr a Chymro); Dr. Mike Hull (entomolegydd gwybodus a roes yr hyder I mi fentro I faes entomoleg); Mary Vaughan Jones (polymath ryfeddol o’r Waunfawr a lwyddodd I ddangos I mi hyd a lled natur a lle’r ddynolryw ynddo) Teulu  Y gwrthgyferbyniad rhwng cefndir Seisnig fy nheulu a Chymreictod y gymdeithas o’m cwmpas. Waunfawr (ardal y mae ei hiaith, ei henwau, ei phobl a’i dirffurfiau wedi eu serio ar fy ngof ac yn rhan o’m gwead);Dyffryn Ardudwy: ardal fy neffroad I Gymreictod a’r sylweddoliad bod posib dilyn eich cwys eich hun heb lithro i’r byd Saesneg.

Cymwysterau

  • BA (Celfi Cain, Norwich)
  • Tystysgrif Dysgu Celf (Prifysgol Caerdydd 1974)
  • Diploma mewn Bywydeg Maes, Prifysgol Llundain, 1979-82)

Papurau ecolegol gwyddonol

  • The Rhinog Goats: 1. survey and management review: a report to the nature Conservancy Council (North Wales Region) Duncan J Brown (Senior Warden - Dyffryn Ardudwy), MG Lloyd (Rhyl)Trosolwg o hanes rheolaeth “swyddogol”geifr gwyllt y Rhinogydd
  • The Rhinog Goats: 2. Social and Spatial Organisation a report to the Nature Conservancy Council (North Wales Region, Duncan Brown)Astudiaeth fanwl o gynefin geifr gwyllt y Rhinogydd trwy farcio, adnabod ac ail-adnabod a chofnodi eu symudiadau dros ddwy flynedd I greu diagramau clwstwr lleoliedig
  • Seasonal variations in the prey of some Barn Owls in Gwynedd.pdfPapur yn y cylchgrawn Bird Study [1]
  • A multivariate approach to the analysis of a stand of vegetation on Slapton shingle ridge, Devon in August 1981 gan Duncan J Brown (prosiect wedi ei gynnig fel rhan o ofynion diploma mewn bywydeg maes (Diploma in Field Biology), Prifysgol Llundain 1979 – 82 (cwrs mewn swydd).
  • The colonisation of Fucus serratus by the tubeworm Spirbis borealis (Polychaeta: serpulidae) gan Duncan J Brown (prosiect wedi ei gynnig fel rhan o ofynion diploma mewn bywydeg maes (Diploma in Field Biology), Prifysgol Llundain 1979 – 82 (cwrs mewn swydd).
  • The Foulmart: what’s in a name (papur a gyhoeddwyd yn Mammal Review, cylchgrawn y Mammal Society dan gyfundrefn adolygiad cydradd (peer reviewed)[2]. Papur yn pwyso a mesur y dystiolaeth ieithyddol Cymraeg a genetig i awgrymu NAD anifail cynhenid i Gymru yw’r ffwlbart. Dywedodd y Golygydd Dr. DW Yalden (cys. pers) bod y papur yn defnyddio dulliau anarferol i gyflwyno testun o’r fath a’i fod yn bwysig rhoi llwyfan iddo yng nghylchgrawn prif gymdeithas astudiaethau mamolion Prydain.
  • Polecats in the West of Scotlandgan JCA Craik a D Brown (cyh. Glasgow Naturalist Cyf. 23(ii) 1997) (Copi papur ar gael)Papur byr yn olrhain a chymharu gwahaniaethau ffenotypig rhwng poblogaeth diweddar ffwlbartod gorllewin yr Alban a rhai a gasglwyd yng Nghymru.

Cyhoeddiadau mwy poblogaidd

1. When do frogs emerge from hibernation (and how do we know): erthygl ar ffenoleg y llyffant melyn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yng ngogledd Cymru: British Wildlife British Wildlife | When do frogs emerge from hibernation (and how do we know)?Erthygl wyddonol lled-boblogaidd yn crynhoi data a gasglwyd dros flynyddoedd yng ngogledd Cymru o ddyddiadau dodwy grifft cyntaf llyffantod.
2. Rhestrau enwau safonol ac amgen ar rywogaethau Cymru, Prydain a’r Byd (trefnydd a sylfaenydd y gwaith; ar y cyd ag arbenigwyr pwnc a iaith).Cyhoeddwyd gan Cymdeithas Edward Llwyd fel pedair cyfrol ac fel rhestrau ar-lein ar ffurf Y Bywiadur - gweler isod)
3.Prosiect Llên Natur (gyda chefnogaeth Cymdeithas Edward Llwyd): Sefydlu prosiect Llên Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd, sy’n cynnwys, trwy ei wefan (a chyda chymorth gwirfoddolwyr). Lawnswyd y prosect gan yr Arglwydd Dafydd Wigley yn 2011 ym Mhlas Tan y Bwlch. Mae nifer o adrannau lled-gysylltiedig yn perthyn iddo:

  • Y Bywiadur [3]. Mae’r Bywiadur bellach yn cynnwys 17,000 o enwau rhywogaethau, sydd yn dolennu â thudalennau cyfatebol yn Wicipedia Cymraeg lle ceir manylion pellach am natur pob rhywogaeth. Fe’n gwahoddwyd I gyflwyno’r enwau hyn I system ryngwladol rhwydwaith NBN y Natural History Museum, ac fel canlyniad mae holl enwau Cymraeg a fathwyd dros 40 mlynedd I’w gweld ar y system honno (ee. y gwiberlys [4]
  • Y Tywyddiadur [5] Ee. 997 o gofnodion DO Jones, Padog: Llên Natur: Gwefan Natur i Bobl Cymru - Y Tywyddiadur. Mae’r Tywyddiadur bellach yn cynnwys 112,000 o gofnodion amgylcheddol, dyddiedig a lleoliedig. Mae’n adnodd i fyfyrwyr ac garedigion hanes cefn gwlad. Gellir holi’r Tywyddiadur nid yn unig am gofnodion un dyddiadur unigol (uchod) ond hefyd ymholiadau pynciol megis “gwair” (cnwd holl bwysig â threfn arbennig o’i gynaeafu sydd bellach i bob pwrpas yn ddiflanedig): Llên Natur: Gwefan Natur i Bobl Cymru - Y Tywyddiadur (dangosir yma cofnodion mis Gorffennaf yn unig - gellir gweithio ymlaen mewn amser).
  • Yr Oriel: Mae na ragor na 9,000 o luniau yma [6]
  • Lleisiau: Adnodd cychwynnol o hanes lafar sydd yma.[7]
  • Enwau lleoedd: ar ôl cynhadledd lwyddiannus yn c.2007 bu Prosiect Llên Natur yn gyfrifol am ddiosg ei gyfrifoldeb am enwau lleoedd gan sefydlu corff newydd arbenigol yn y maes. Aeth y corff hwn ymlaen o nerth i nerth: Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru – Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru [8]
  • Bwletinau: trwy ei Fwletin misol (141 rhifyn erbyn Tachwedd 2019 [9]. Gellir canfod pob Bwletin y mae gair (ee. Caergybi) ynddo: 

4. Cyhoeddwyd erthyglau wedi seilio ar driniaeth wyddonol o ddata aml-ffynonellog i amlygu hanes ecolegol a diwylliannol rhywogaeth ym Mywiadur Llên Natur, ee. Eosiaid Gwlad y Gan[10] (tudalen 3: eosiaid Gwlad y Gân)

Y Cyfryngau

Radio

  • Cyfrannydd I nifer o raglenni hanner awr ‘Awyr Iach’[?], yn cynnwys ymweliadau ag Ynys Rhum a’r Fawnog Faith (Flow Country) yn Sutherland, yr Alban,
  • Cyfrannydd achlysurol ar faterion natur, yr amgylchedd a newid hinsawdd I wasanaeth newyddion BBC Radio Cymru.
  • Cyfrannydd rheolaidd I gyfres cefn gwlad Radio Cymru “Llwybr Troed”.
  • Panelydd rheolaidd ar y rhaglen boblogaidd Galwad Cynnar dros gyfnod o chwarter canrif.
  • Cyfrannydd rheolaidd misol fel naturiaethwr I raglen boblogaidd Molly’s Place ar BBC Radio Wales am 5 mlynedd.

Teledu (detholiad)

  • Cyflwynydd “PAW”, rhaglen natur i blant ar S4C.
  • Cyfraniad ymgynghorol i raglen Garddio a Mwy (Cwmni Da) ar y testun Clwy’r Onnen

Cwmni Pendraw

Cyd-sefydlydd a chadeirydd Cwmni Pendraw [11] cyf. (gyda’r actor a’r amgylcheddwr Wyn Bowen Harris, a’r cerddor Stephen Rees): cwmni drama amgylcheddol gyda phwyslais ar ganfyddiad pobl o’r tywydd a’r byd o’u cwmpas dros y canrifoedd hyd heddiw. Mr Bulkeley o’r Brynddu yw’r cyflwyniad mwyaf nodedig hyd yma (wedi bod ar ddwy daith, un dros ogledd Cymru a’r ail dros Gymru a Llundain), gyda 2071 (drama yn cyflwyno cyflwr ein byd yn y flwyddyn 2071 a pheryglon Newid Hinsawdd yn bennaf ar gyfer pobl ifanc. Mae sawl cynllun arall ar y gweill gan gynnwys yr un arfaethedig cyfredol Ar y Creigiau Geirwon i’w berfformio y nghanolfan Pontio, Bangor, a Gŵyl Amgylcheddol Caernarfon yn 2020. Drama o safbwynttywyswyr lleol yr hen “ddiwydiant” Cymreig o dywys ymwelwyr i’r creigiau uchel i gasglu planhigion prin.

Gwyddoniaeth y Dinesydd [12]

Yn y blynyddoedd diwethaf sylweddolwyd na ellir cyflawni pob agwedd ar fywyd academaidd heb ysgogi gweithgarwch sylweddol gwirfoddolwyr. Datblygwyd llawer o brosiectau mawr yn y byd Seisnig i godi, prosesu, amlygu ac yn gyffredinol rhoi pob math o wybodaeth archifol ar gof a chadw defnyddiol. Dyna ethos wreiddiol Llen Natur. Gyda threigl y blynyddoedd a datblygiadau pellgyrhaeddol yn y cyfryngau cymdeithasol, daethpwyd i’r casgliad mai gwell fyddai creu cysylltiadau cyhoeddus pellach trwy ddilyn egwyddorion Gwyddoniaeth y Dinesydd a mabwysiadu a datblygu systemau sefydledig cyhoeddus ar y we i ehangu ein cyrhaeddiad. Barnwyd y byddai hynny yn llawer mwy pwerus o ran creu a chyrraedd cynulleidfa nag unrhyw system fewnol y gallen Llen Natur ei ariannu y tu hwnt I’r wefan ei hunan. Dyna pam y datblygwyd dau blatfform newydd i’r prosiect trwy berthynas agos gyda Wicipedia, Cymraeg, ynghyd â defnydd dwys o feddalwedd “Grwp” cwmni Facebook i hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol i fannau nas cyrhaeddwyd o’r blaen. Bu hyn yn llwyddiant.
Mae’n fwriad datblygu cysylltiadau priodol i greu trydydd llwyfan cyhoeddus megis Cofnod [13] a systemau cofnodi bywyd gwyllt Cymreig eraill er mwyn cyfrannu data i gronfeydd mwy hygyrch ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol

Y Weplyfr “Cymuned Llên Natur” (Grwp Facebook)

Mae traffig cyfraniadau i Brosiect Llên Natur wedi cynyddu ar ei ganfed ers sefydlu “Cymuned Llên Natur”. Dros y ddwy flynedd mae wedi bodoli mae’r nifer aelodau’r grŵp wedi cyrraedd rhagor na 2000, gyda chyfartaledd o dri chais i ymuno yn cael eu derbyn pob wythnos. Mae mwyafrif helaeth yr aelodau 1,800+ yn gyfranwyr gweithredol. Hyd yma mae’r cyfranwyr wedi cofnodi sylwadau ffenolegol (ee. Cogau cyntaf [14], rhywogaethol (ee. Gwiberod [15].

Cyfraniadau poblogaidd ac addysgiadol

  • Cyfrannu amrywiol eitemau o wybodaeth i erthyglau pentrefi Cymru yn Wicipedia (ee. https://cy.wikipedia.org/wiki/Waunfawr?wprov=sfti1)
  • Cyfrannu erthyglau dirifedi (!) i gylchgronau Cymraeg megis Cynefin, Gwaith Maes, Dan Haul ac yn Saesneg i gylchgrawn Cymdeithasau Byd Natur Cymru “Nature in Wales”.
  • Cynnal colofn amgylcheddol “Tro ar Fyd” a “Llên Natur” yn Y Cymro dros gyfnod o 7? mlynedd (yn y wasg fel casgliad ar hyn o bryd).
  • Cynnal slot 5 munud wythnosol foreau Sadwrn ar raglen “Molly’s Place” (BBC Radio Wales) dros gyfnod o c.5 mlynedd).
  • Cyfrannwr cyson fel panelydd ar raglen amgylcheddol Galwad Cynnar (BBC Radio Cymru) dros gyfnod o c.20+ mlynedd.
  • Awdur cyfrol i ddysgwyr ar yr amgylchedd “Gwerth y Byd yn Grwn” (Gwasg y Lolfa).
  • Cyfrannwr achlysurol cyson i eitemau amgylcheddol llosg newyddion Radio Cymru. 
  • Cyfrannwr achlysur i raglenni natur ac amgylcheddol (ee. Garddio a Mwy)

Wicipedia (Cymraeg)

Cyflwynwyd yr hyn a gyflawnwyd ar y pryd o ran datblygu themau amgylcheddol i ddwy gynhadledd Wikipedia (2017 [16] a '18) ar y pwnc “Cwlwm Celtaidd” sef posibiliadau’r llwyfan hwn fel modd i hybu ieithoedd lleiafrifol, yng Nghaeredin ac Aberystwyth yn eu trefn.

Cyfraniadau

  • rhywogaethau (ee. y lyncs [17]
  • Tudalen dyddiaduron amgylcheddol ac amaethyddol Cymreig fel genre llenyddol a hanesyddol [18]
  • Sefydlu bywgraffiadau a chrynodebau tua 15 o ddyddiadurwyr amgylcheddol Cymreig a Chymraeg gan gynnwys tyddynwyr a ffermwyr cyffredin (ee.[19]
  • sefydlu cyfres o egin-erthyglau newydd ar rywogaethau i’w datblygu ymhellach i erthyglau llawn, ee. adar y byd (ee.[20], llysiau’r afu, ffyngau, gwyfynod a gloynnod byw (ee.[21]
  • Cynnal rhwydwaith o wirfoddolwyr i wireddu’r gwaith uchod.
  • Sefydlu categori Digwyddiadau Tywydd mewn erthyglau ‘blwyddyn’ a chyfrannu iddynt o Dywyddiadur Llên Natur (ee.[22]
  • Cyfrannu amrywiol eitemau o wybodaeth i erthyglau pentrefi Cymru yn Wicipedia (ee.[23]

Amrywiol gyhoeddiadau a gweithgareddau cyhoeddus

  • Cyfrannu erthyglau dirifedi i gylchgronau Cymraeg megis Cynefin, Gwaith Maes, Dan Haul ac yn Saesneg i gylchgrawn Cymdeithasau Byd Natur Cymru “Nature in Wales”.
  • Cynnal colofn amgylcheddol Tro ar Fyd a Llên Natur yn Y Cymro dros gyfnod o 10 mlynedd rhwng 2006 a 2016 (yn y wasg fel casgliad ar hyn o bryd).
  • Cynnal slot "natur" 5 munud wythnosol foreau Sadwrn ar raglen Molly’s Place (BBC Radio Wales) dros gyfnod o c.5 mlynedd).
  • Cyfrannwr cyson fel panelydd ar raglen amgylcheddol Galwad Cynnar (BBC Radio Cymru) dros gyfnod o c.20+ mlynedd.
  • Awdur cyfrol i ddysgwyr ar yr amgylchedd “Gwyrdd ein Byd”.
  • Cyfrannwr achlysurol cyson i eitemau amgylcheddol llosg newyddion Radio Cymru. 
  • Cyfrannwr achlysur i raglenni natur ac amgylcheddol (ee. Garddio a Mwy)
  • Bum yn gyson yn eiriol dros yr iaith Gymraeg gan gynnwys gweithredu dros Ddeddf Iaith Newydd (ymgyrch lwyddiannus Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
  • Trefnu ymweliad ‘barnwrol’ gan yr artist David Hockney (Ysgol Gelf Norwich, pan yn 20 oed)
  • Sefydlu a chynnal (ar y cyd ag un athro arall) Cymdeithas Ffilmiau Tramor (Ysgol Aberhonddu, 1970au cynnar)
  •  Gwisg las yr Eisteddod Genedlaethol

Gweithgarwch gwirfoddol neu led-gyflogedig

  • Darlithydd WEAdros 15 mlynedd yng Ngwynedd (cyrsiau a darlithoedd unigol)
  • Arweinydd teithiau maes ar ran Cymdeithas Edward Llwyd
  • Cynnal arolygon pellenni tylluanod gyda dosbarthiadau ysgol cynradd ac uwchradd.
  • Cynnal arolygon nythu a ffenoleg y gwybedog brith
  • Sefydlu Gŵyl y Gwyll (Antur Waunfawr): gŵyl i godi ymwybyddiaeth o ryfeddodau naturiol y nos (ser, gwyfynod, ystlumod).
  • Trefnydd a chofnodyddArolwg y Crëyr glas, arolwg mwyaf hirhoedlog Prydain (ar ran y BTO – yr Ymddiriedolaeth Adarydda Prydenig) 
  • Datblygu prosiectau ar y cyd ag ysgolion uwchradd a chynradd I ddatblygu cyfleoedd addysg trwy gyfuno natur, Wicipedia a’r Baccalaureat CymreigGWAITH AR WAITH
  • Cynllunio Gŵyl Amgylcheddol Caernarfon GWAITH AR WAITH

Geiriau i ysbrydoli

Dyma eiriau o’r 8ed ganrif sydd yn cyfuno a chynrychioli pob agwedd ar fy ymroddiad i fywyd amgylcheddol Cymreig a Chymraeg

Pais Dinogad fraith fraith,
O grwyn belaod ban wraith;
Chwid chwid chwidogaeth
Gochanwn gochenyn wythgeith.
Pan elai dy dad di i heliaw
Llath ar ei ysgwydd, llory yn ei law
Ef gelwi gwn gogyhwgGiff, gaff daly daly, dwg dwg;
Ef lleddi bysg yng nghorwg
Mal ban lladd llew llywiwg.
Pan elai dy dad di i fynydd,
Dyddygai ef pen iwrch, pen gwythwch, pen hydd,
Pen grugiar fraith o fynydd
Pen pysg o Raeadr Derwennydd.
O’r sawl yd gyrrhaeddai dy dad di a’i gigwain
O wythwch a llewyn a llwynain
Nid angai oll ni fai oradain

Cyfeiriadau