The basics
Quick facts
Intro
Welsh saint
Gender:
Male
Places:
Work field:
Birth:
(Kingdom of Brycheiniog, Wales, United Kingdom, Kingdom of Powys)
Family:
Father:
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Traddodiadau Cyfeiriadau
The details
Biography

Introduction

Erthygl am y sant yw hon. Am yr arwr o'r Hen Ogledd gweler Cynon fab Clydno Eiddin.

Sant o Gymro oedd Cynon (fl. 6g). Yn ôl un ffynhonnell roedd yn un o feibion Brychan, sefydlydd traddodiadol Brycheiniog.

Traddodiadau

Ceir peth cymysgedd yn y traddodiadau amdano ac mae'n bosibl iddo gael ei gymysgu weithiau â Cynon, mab Clydno Eiddin o'r Hen Ogledd. Ceir cyfeiriadau hefyd at un Cynon Fanaw neu Cynon o Fanaw, a ymsefydlodd ar Ynys Manaw. Ond gan fod y sant hwnnw yn rhannu'r un wylmabsant (9 Tachwedd), ac yn fab i Frychan, mae'n debygol mai'r un gŵr ydyw.

Cysylltir Cynon â sawl lle yng ngorllewin a de Cymru. Dywedir ei fod wedi astudio yn Llancarfan a Llanilltud Fawr dan y sant Cadfan; yn ôl un traddodiad daeth o Lydaw gyda Chadfan i sefydlu clas ar Ynys Enlli. Ceir eglwysi sy'n gysegredig iddo yn Nhregynon (Maldwyn) a Chapel Cynon (Ceredigion). Ger Llanbister ym Maesyfed roedd Croes Cynon (enw plasdy bellach) a Chraig Cynon wrth ffrwd o'r enw Nant Cynon.

Cyfeiriadau