William John Roberts
Welsh poet, printer, bookseller, bibliophile and eccentric

William John Roberts

The basics
Quick facts
Intro
Welsh poet, printer, bookseller, bibliophile and eccentric
A.K.A.
Gwilym Cowlyd
Gender:
Male
Places:
Birth:
1828(Trefriw, United Kingdom)
Death:
December 1904(Llanrwst, United Kingdom)
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Bywgraffiad Cyhoeddiadau Llyfryddiaeth
The details
Biography

Introduction

Bardd Cymraeg, argraffydd a llyfrwerthwr oedd William John Roberts, (1828 – Rhagfyr 1904), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol Gwilym Cowlyd. Roedd yn nai i Ieuan Glan Geirionydd.

Bywgraffiad

Ganed Gwilym Cowlyd yn Nhrefriw yn yr hen Sir Gaernarfon (Sir Conwy erbyn hyn) yn 1828.

Yn 1865 sefydlodd orsedd a alwodd yn Orsedd Geirionydd i gystadlu a Gorsedd y Beirdd. Trefnodd Arwest Glan Geirionydd ar lan Llyn Geirionydd gyda'i gyd-feirdd Trebor Mai a Gethin Jones ("Gethin") am ei fod yn meddwl fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhy Seisnigaidd.

Cyfansoddodd yr awdl "Mynyddoedd Eryri" a nifer o gerddi eraill a gyhoeddwyd gan ei wasg ef ei hun yn y gyfrol Y Murmuron yn 1868.

Claddwyd ef ym mynwent Llanrwst.

Cyhoeddiadau

  • Y Murmuron (Llanrwst, 1868)
  • (golygydd). Bywyd a Gweithiau Ieuan Glan Geirionydd
  • (golygydd). Gweithiau Gethin
  • Diliau'r Delyn

Llyfryddiaeth

  • Davies, Glynne Gerallt, Gwilym Cowlyd, 1828-1904 (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1976).


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.