Abram Wood
Gypsy patriarch, died 1799

Abram Wood

The basics
Quick facts
Intro
Gypsy patriarch, died 1799
Gender:
Male
Work field:
Birth:
1699(Newtown, Wales, United Kingdom)
Death:
1799
Biography menu
Menu

Jump to

Introduction Hanes Disgynyddion Gweler hefyd Ffynonellau
The details
Biography

Introduction

Sefydlydd teulu diwylliedig o sipsiwn oedd Abram Wood (c. 1699 - c. 12 Tachwedd 1799); ei enw ef sydd yn yr ymadrodd "teulu Abram Wood" pan gyfieirir at un o'r sipsiwn; ceir amrywiadau ar y ffurf hwn: 'Abram Wd' neu 'deulu Alabaina'. Bu ei ddisgynyddion yn amlwg iawn fel cerddorion, yn ffidilwyr ac yn delynorion. Canai Abram y ffidil, ond nid oedd yn delynor — yng Nghymru y dysgodd ei deulu ganu'r delyn. Bu farw'n gant oed ar ei ffordd ger Llangelynnin, Gwynedd.

Hanes

Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am Abram ei hun ac ni ddylid ei gymysgu gyda gŵr arall o'r un enw a hanodd o Frome, yng Ngwlad yr Haf. Fe'i disgrifir yng nghofrestr marwolaethau Plwyf Llangelynnin fel Abram Woods, a travelling Egyptian. Yn ôl ei or-ŵyr, y telynor John Roberts o'r Drenewydd, daeth Abram Wood a'i blant i Gymru o lannau Afon Hafren.

Cofnodwyd llawer o hanes y teulu gan John Samson, o Lerpwl a astudiodd y Sipsiwn Cymreig a'u hiaith (Romani). Prif ffynhonnell ei wybodaeth oedd Mathew Wood (1845-1929) a fu'n byw yn ardal y Bala.

Disgynyddion

Roedd gan nifer o feibion: Valentine, William a Solomon; soniai nain 'y Sgolor Mawr' hefyd am Tom a Robin), ac un ferch Damaris (a briododd ag un o'r Ingramiaid, gogledd Ceredigion. Credir fod nifer o'i ddisgynyddion wedi ymbriodi ag aelodau eraill o'r teulu, fel oedd yr arfer gan y Sipsiwn.

Ymhlith y disgynyddion nodedig y mae:

  • Jeremiah Wood neu 'Jeri Bach Gogerddan' (c. 1779-1867), ŵyr i Abram a adnabyddir hefyd fel 'Telynor Gogerddan' (Trefeurig)
  • John Wood Jones (1800-1844) gorwyr Abram a thelynor Arglwyddes Llanofer (Augusta Hall)
  • John Roberts Telynor Cymru; cofnododd hanes y teulu
  • Mathew Wood (1845-1929) a fu'n byw yn ardal y Bala

Gweler hefyd

  • Augustus John; dysgodd Romani a bu'n byw am gyfnod yn ardal y Bala, gyda rhai o deulu Abram Wood.

Ffynonellau

  • Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol (2008)
  • Y Bywgraffiadur Cymreig (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)